Gwybodaeth am y cwrs

Ym 1988, daeth Donald Steel, Gohebydd Golff y Sunday Telegraph a phensaer cyrsiau golff rhyngwladol, i ymweld â Chlwb Golff Y Borth ac Ynyslas ar ran Undeb Golff Cymru. Dyma a ddywedodd yn ei adroddiad:

“Roedd yn braf ymweld â’r Borth am y tro cyntaf a gweld cwrs ag iddo enw da haeddiannol. Fe'i canfûm yn gwrs hynod swynol, ei gymeriad yn ymdebygu i’r gorau o blith cyrsiau lincs glan môr gyda'r clwb ar y naill ben a'r tyllau'n rhedeg allan ac yn ôl ar hyd llain cul o dir. Mae'n gwrs gwyliau pleserus iawn gyda’r gallu i herio'r chwaraewyr gorau ar yr achlysuron y maen nhw’n chwarae yno.”

Sefydlwyd Clwb Golff Y Borth ac Ynyslas mewn lleoliad ysblennydd ar lan Bae Ceredigion ym 1885, sy’n golygu mai dyma’r cwrs hynaf yng Nghymru. Ailgynlluniwyd y cwrs lincs traddodiadol yma gan Harry S Colt ym 1947 ac mae'n cynnig prawf gwych o'r gêm drwy gydol y flwyddyn, yn unol â'r hyn y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan leoliad sy'n cwrdd â safonau pencampwriaeth Undeb Golff Cymru.

Caiff y cwrs ei gynnal a'i gadw i safon uchel iawn ar gyfer aelodau, ymwelwyr a chymdeithasau fel ei gilydd. Mae rownd o golff yn Y Borth ac Ynyslas yn brofiad gwirioneddol gofiadwy, ac mae llawer o ymwelwyr yn ei ystyried yn unigryw ymhlith cyrsiau lincs gwych eraill Cymru.

Mae rhan sylweddol o'r cwrs o fewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi. Caiff y cwrs ei reoli'n ofalus mewn trafodaeth ag asiantaethau amgylcheddol, gan roi cyfle i golffwyr brofi rhywfaint o fflora a ffawna'r cynefin unigryw hwn. Yn yr haf, caiff y twyni tywod eu trawsnewid yn garped lliwgar o flodau gwyllt ac maen nhw’n arbennig o enwog am eu tegeirianau prin.

Mae llawer o'r tyllau ger y traeth yn cynnig golygfeydd ysblennydd o goedwig a foddwyd ers talwm, gyda gweddillion boncyffion yn dod i’r golwg adeg llawn isel, o’r dyddiau pan fyddai’r grib raeanog wedi’i leoli ymhellach allan i'r môr. Mae boncyffion y coed derw, pinwydd, gwern, bedw, helyg a chyll wedi dod fwyfwy i’r amlwg yn sgil y llanw uchel a’r tonnau cryfion sydd wedi taro'r ardal yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Y gred yw bod y coed yn dyddio o’r Oes Efydd tua 1500CC ac wedi’u gwarchod gan amodau asidig y tir mawn, gan ddod yn destun chwedlau, llên gwerin a chaneuon.

Chwedl Cantre'r Gwaelod

- Course Information -

In 1988, Donald Steel, the Golf Correspondent of the Sunday Telegraph and an international golf course architect, visited Borth and Ynyslas Golf Club on behalf of WGU and reported :-

'It was nice to make my  first visit to Borth and to see a course with a justifiably fine reputation. I found it a course of great charm, very much in the character of the best seaside links with the clubhouse at one end and the holes running out and back across a narrow track of land. It is a highly enjoyable holiday course with the capacity to challenge the best players on the occasions they play there.'

Set in a spectacular location on the sweep of Cardigan Bay, Borth & Ynyslas Golf Club was established in 1885 making it the oldest course in Wales. This traditional links course which was redesigned by Harry S Colt in 1947 provides a great test of golf all year round as one would expect of a Golf Union of Wales championship venue.

The golf course is maintained to a very high standard for members, visitors and societies. A round of golf at Borth & Ynyslas is a truly memorable experience and many visitors consider the course unique among the other fine links courses in Wales.
A significant part of the course is within the Dyfi National Nature Reserve. The course is carefully managed in discussion with environment agencies providing golfers with the opportunity of experiencing some of the flora and fauna of this unique habitat. In the summer, the sand dunes are transformed into a colourful carpet of wild flowers and are especially renowned for their rare orchids.

Many of the holes by the sea offer spectacular views of a submerged petrified forest, the remains of tree trunks which appear at low tide, from the days when the shingle ridge was further out to sea. The stumps of the oak, pine, alder, birch, willow and hazel trees have been stripped back further by the high tides and crashing waves that have hit the region in the past few years.

The trees, which are thought to date from around 1500BC Bronze Age have been preserved by the acid conditions in the peat of the land and have become the stuff of legends, folklore and songs.
Cantre'r Gwaelod Legend.